Eich ymweliad

Gallwch gyraedd Llandudoch ar y B4546, tua 1.25 milltir neu 2 kilometre i’r gorllewin o Aberteifi, ar lan orllewinol afon Teifi. Gallwch ddod o’r ddau gyfeiriad ar hyd y A487 i Aberteifi, lle mae troad i’r B4546 i Landudoch.

Dyddiadau a thocynnau

Rydyn ni’n perfformio am bedair noson, nos Fercher i nos Sadwrn, fel arfer yn yr wythnos cyn penwythnos cyntaf mis Awst. Gallwch brynu tocynnau o flaen llaw o Theatr Mwldan yn Aberteifi, neu ar y noson wrth y drws. Fel rheol mae tocynnau ar werth ar-lein yn gynnar ym mis Mehefin. Os oes eisiau cael gwybod pan fydd dyddiadau a gwerthiant tocynnau yn cael eu cyhoeddu, ymunwch a’n rhestr bostio.

Parcio

Mae ychydig o lefydd parcio ar gael o dan yr Abaty wrth y Coetsiws. Mae mwy o lefydd ym maes parcio talu ac arddangos y Cyngor ar yr Heol Fawr gyferbyn a Siop Pysgod a Sglodion Bowen’s.

Seddau

Rydyn ni’n darparu seddau, ond mae croeso i aelodion y gynulleidfa ddod a’u seddau eu hunan. Does na ddim seddau gadw; y peth gorau yw cyrraedd yn gynnar os ych chi am gadw seddau penodol. Mae croeso i chi ddod a bwyd a diod a chael picnic cyn y perfformiad, ond gwnewch yn siwr nad ych chi’n gadael sbwriel ar eich hol os gwelwch yn dda.

Tywydd

Dyw’r llwyfan na’r seddau dan do, felly dyn ni i gyd yn agored i’r tywydd lleol. Os bydd y rhagolygon yn gaddo glaw trwm, bydd y perfformiad yn cael i symud i leoliad dan do – fel arfer yn Neuadd Goffa Llandudoch. Mae hi’n bosib y bydd glaw man yn ystod y perfformiad, felly mae hi wastad yn syniad dod ag ymbarel neu siaced ddal dwr.

Mae’r tymheredd yn oeri tua diwedd y noson, felly’r cyngor yw gwisgo’n dwym a dod a blancedi os ych chi eisiau. Dyn ni ddim yn daparu blancedi i'w hurio yn yr Abaty.

Hygyrchedd

Mae’r perfformiad yn cael ei leoli yn Rhesaid Orllewinol yr Abaty ar ben llethr welltog. Mae hon yn weddol serth ond o fewn cyrraedd i gadair olwyn. Mae grisyn tua 15cm o uchder o gwmpas ardal y seddau. Bydd ein criw yn barod iawn i helpu ymwelwyr gydag unrhyw problemau symud i gyrraedd eu seddau.

Wrth adael y perfformiad bydd hi’n dywyll ac mae’r tir yn gallu bod yn anwastad mewn mannau. Bydd y grisiau mwy yn cael eu goleuo, ond yfallai bydddwch chi eisiau dod a thortsh i oleuo’ch ffordd yn ol i’r allanfa.

Toiledau a lluniaeth

Mae’r tai bach yngh nghanolfan ymwelwyr y Coetsiws ar waelod yr Abaty, lle gallwch chi gael bwyd a diodydd cyn y sioe ac yn ystod yr egwyl.

Uchafbwyntiau lleol

Mae llawer o bethau i’w gweld ac i’w gwneud yn Llandudoch, felly cystal gwneud hi’n ddiwrnod llawn: