Shakespeare yn yr hen Abaty Llandudoch

Cwmni o actorion a cherddorion yw'r Abbey Shakespeare Players. Mae llecyn hudol yr hen Abaty, Landudoch, yn ein denu ni i Orllewin Cymru bob haf o lawer o fannau ar draws Ynys Prydain. Rydyn ni wedi llwyfannu un o ddramâu Shakespeare yma bob blwyddyn am fwy na thri degawd.

Ein hanes

Mae’n hanes ni’n dechrau gyda chynhyrchiad teithiol gan fyfyrwyr Coleg Corpus Christi, Rhydychen. Yn sgil awgrymiad gan Cecil Williams, perchennog garej lleol yn Llandudoch, llwyfannodd myfyrwyr y coleg The Tempest  ym 1973. Roedd posibiliadau theatrig y safle yn amlwg a dilynodd ail gynhyrchiad yr haf nesa.

Deng mlynedd yn ddiweddarach awgrymodd Mike a Jane Hall, a roedd wedi adfer melin dwr y pentref yn y cyfamser, y gallai’r ddramau gael eu adfywio. Fel canlyniad, a gyda chefnogaeth Ficar eglwys St Thomas a Cadw, cafodd yr Abbey Shakespeare Players ei sefydlu. Roedd y cwmni’n cynnwys cnewyllyn o actorion o’r cynhyrchiad gwreiddiol yn ogystal a ffrindiau a theulu o’r ardal leol ac o’r wlad gyfan. Twelfth Night oedd y ddrama gyntaf ym 1987. Rydyn ni wedi llwyfannu drama bob haf ers hynny.

Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i bobl Llandudoch, i’r Coetsiws ac i Cadw am eu haelioni a'u cefnogaeth barhaol.

Cerddoriaith

Mae’n dramau ni’n cael eu bywiocau gan gerddoriaeth fyw - gwaith gwreiddiol gan y cyfansoddwr Richard Morris, gyda threfniannau a gwaith golygol gan Henry Ward, arweinydd Cor Aberteifi. Mae’r gerddoriaeth yn cael ei pherfformio ar ac oddi ar y llwyfan ac yn cynnwys caneuon i unawdwyr yn ogystal a rhai i’r cast cyfan.

I ddathlu 25ed penblwydd yr Abbey Shakespeare Players yn Llandudoch gwnaethon ni recordiad o ddewisiad o gerddoriaeth Richard Morris i’r ddramau, ac mae hwn ar gael ar CD. Mae Songs of Spring and Winter (Stretto Records) yn cael eu perfformio gan yr Abbey Shakespeare Consort, dan arweiniaeth Paul Daniel. I brynu copi o’r CD (£10+p&p) anfonwch ebost at music@abbeyshakespeare.co.uk.

Cefnogi'r gymuned

Mae elw ein cynhyrchiadau ni’n cael i roi i elusennau lleol. Dros y blynddoedd diwethaf dyn ni wedi rhoi’r rhan fwyaf o’n helw i Hanes Llandudoch. Mae Hanes yn elusen gymunedol a ailddatblygodd canolfan ymwelwyr y Coetsiws o dan yr Abaty. Yn ogystal a bod yn ganolfan celfyddydau a threftadaeth, mae’r Coetsiws yn cael ei ddefnyddio ar gyfer addysg a digwyddiadau arbennig. Yn 2009 sefydlodd Hanes y Farchnad Cynhyrchwyr Lleol wythnosol, sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o Sir Benfro, ac a gafodd ei henwi’n farchnad fwyd orau ym Mhrydain gan Wobrau Bwyd ac Amaeth y BBC ym 2016.

Yn ystod ein hanes dyn ni wedi rhoi o’n helw hefyd i Gronfa Cofeb Ryfel Llandudoch ac i Eglwys St Thomas. Dyn ni hefyd yn casglu arian ar ol pob perfformiad i gefnogi’r Royal National Lifeboat Institution ym Mhoppit.

Sut i gymryd rhan

Mae’r ddrama yn cael ei hymarfer o’r dechrau ar y safle mewn cyfnod dwys o ddeng diwrnod – sy’n heriol ond yn hwyliog tu hwnt. Cwmni ensemble ydyn ni, sy’n cynnwys aelodion a chefndir proffesiynol yn ogystal ac amaturiaid profiadol a chymharol newydd. Dyn ni’n anelu at gynhyrchu dramau o safon proffesiynol, sy’n gofyn am lefel uchel o ymroddiad at ddysgu’r geiriau, dilyn cyfarwyddiadau a chefnogi aelodion eraill y cwmni.

Dyn ni ddim yn cynnal grandawiadau fel y cyfryw. Bydd aelodion newydd fel arfer yn rhoi cynnig ar ran lai yn y flwyddyn gyntaf cyn mynd ymlaen at ran fwy sylweddol mewn cynhyrchiadau diweddarach. Dyn ni wastad yn hapus i glywed oddi wrth actorion a cherddorion sydd ag awydd cymryd rhan: gallwch gysylltu a ni drwy’r linciau isod os oes diddordeb.

Ein noddwr

Perfformiodd y cyfarwyddwr theatre, Edward Hall, gyda ni mewn dau ddrama yn yr wythdegau hwyr. Yn 2011, ein penblwydd ni’n bum mlynedd ar hugain, roedd hi’n bleser mawr i ni enwi fe’n Noddwr Anrhydeddus y cwmni.

Edward Hall: credit Dominic Clemence

In 1987 and 1988 I had the pleasure of acting in St Dogmaels in Twelfth Night and The Merchant Of Venice. I remember vividly the magic of performing in such a special spot and the feeling of community and shared ambition that is at the centre of any thriving theatrical enterprise. I am delighted and honoured to still be associated with the company that is now celebrating its twenty fifth year. A special moment for a unique enterprise. Here's to twenty five more.

Edward Hall
Director, Propeller Theatre Company
Associate Director, National Theatre
Artistic Director, Hampstead Theatre